Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Health and Social Care Committee
|
|
|
24 Hydref 2014 |
Annwyl Gyfaill
Fel y gwyddoch, cyflwynodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar ei Ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru ym mis Chwefror 2013. Canolbwynt yr ymchwiliad oedd archwilio’r ymwybyddiaeth o argymhellion a chanllawiau presennol ar draws y gwahanol sectorau o ran atal marw-enedigaethau, y modd y gweithredir yr argymhellion a’r canllawiau hyn, a’u heffeithiolrwydd, yn enwedig mewn perthynas â diffyg twf y ffetws a lleihad mewn symudiadau. Bu’r Pwyllgor hefyd yn ystyried lle y gellid gwneud gwelliannau posibl.
Cytunodd y Pwyllgor yn ddiweddar i ofyn am adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi 2014. Dywed yn ei adroddiad cynnydd er gwaethaf y cynnydd a wnaed ar ymgysylltiad staff clinigol, mae rhagor o waith eto i’w wneud i weithredu argymhellion y Pwyllgor yn llawn.
Yng ngoleuni’r ymateb hwn mae’r Pwyllgor wedi cytuno i ddychwelyd at y pwnc er mwyn mynd ar drywydd ei gasgliadau a’i argymhellion cychwynnol. Defnyddir yr ymchwiliad dilynol hwn i ystyried pa mor effeithiol y bu Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r materion a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad, gan ganolbwyntio’n benodol ar weithredu naw argymhelliad y Pwyllgor.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Er mwyn llywio ei waith, mae’r Pwyllgor yn cysylltu â’r rhai a gyflwynodd dystiolaeth i’r ymchwiliad gwreiddiol i ofyn am eu barn yn ysgrifenedig am y cynnydd a wnaed i weithredu ei argymhellion. Caiff yr ymatebion hyn eu hystyried gan y Pwyllgor a byddant o gymorth wrth iddo benderfynu a oes angen craffu ymhellach ar y maes hwn cyn diwedd y Cynulliad hwn yn 2016.
Hoffai’r Pwyllgor hefyd glywed eich barn ynglŷn â ble’r ydych yn meddwl efallai y bydd angen gwneud rhagor o waith a pha gamau efallai y bydd angen eu cymryd i sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud . Nid oes angen i dystiolaeth ysgrifenedig fod yn hir, ac nid oes angen ailadrodd tystiolaeth a gyflwynwyd i’r ymchwiliad blaenorol. Mae canllawiau i dystion sy'n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau ynghlwm yn Atodiad A.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o’r cofnod cyhoeddus. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fo’n berthnasol, yn unol â’u polisïau ynghylch gwybodaeth i’r cyhoedd.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad i PwyllgorIGC@cymru.gov.uk.
Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai cyflwyniadau gyrraedd erbyn dydd Iau 4 Rhagfyr 2014. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gofyn am gyflwyniadau gan y rhai a enwir ar y rhestr ddosbarthu sydd ynghlwm (Atodiad B) gan eu bod wedi darparu tystiolaeth i’w ymchwiliad gwreiddiol. Fodd bynnag, os hoffai unrhyw unigolion neu sefydliadau eraill nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon gyfrannu at yr ymchwiliad, mae croeso iddynt gyflwyno’u barn. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.
Datgelu gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i Bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich cyfrifoldeb chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Yn gywir
David Rees AC
Cadeirydd, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Atodiad A: Canllawiau i dystion sy'n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau
Mae'r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf bosibl. Bwriad y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy'n llunio gwybodaeth ysgrifenedig i bwyllgorau. Bydd hyn yn galluogi'r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.
Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd. Pan fyddwch chi'n cyflwyno sgan neu pdf, yn enwedig pan fyddant yn llythyrau neu'n dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno'r ddogfen Word wreiddiol gyda hi.
Atodiad B: Rhestr ddosbarthu
Arolwg Amenedigol Cymru Gyfan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru)
Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
Dr Alexander Heazell (Canolfan Gwyddorau Iechyd Academaidd Manceinion)
Cronfa Ymchwil Marw-enedigaethau Holly Martin
Y Gynghrair Marw-enedigaethau rhyngwladol
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant
Y Gweithgor Cenedlaethol ar Farw-enedigaethau
OC Support
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion
Coleg Brenhinol y Bydwragedd
Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr
Sefydliad Amenedigol Gorllewin Canolbarth Lloegr